Cenedl, Cymuned, Cyfiwander - Sermon at the Eisteddfod
Sunday 6th August 2006
The following sermon, in Welsh, was delivered by the Archbishop at the annual Eisteddfod festival in Wales.Cenedl, Cymuned, Cyfiwander
Yn yr Hen Destament, yn llyfr Deuteronomium, fe ddarllenwn, 'Gwnaeth yr Arglwydd ein Duw gyfamod a ni yn Horeb. Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond a ni i gyd sy'n fyw yma heddiw' (Dt 5. 2-3). Un o'r themau mwyaf pwysig yn llyfr Deuteronomium yw hon. Mae'r cyfamod rhwng Duw a'r bobl ddewisedig yn rhywbeth hollol gyfoesol; 'dyw e ddim yn fater o hanes neu draddodiad, agwedd o'r 'heritage industry' yn Israel hynafol. Mae galwad Duw yn dod i ni heddiw, galwad i ateb ein Creawdwr a'n Hiachawdwr mewn cariad a llawenydd yn yr awr hon ac yfory. Ac yr ydym ni gyd yn sefyll heddiw gerbron ein Duw; nid rhywbeth etifeddol neu naturiol neu hanesyddol ydyw ufudd-fod a gras. Cofiwch y geiriau a dywedodd Ioan Fedyddiwr i'r Phariseaid - 'Gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn' (Lc.3.8).
Efallai, felly, nad damwain ydyw bod y gair 'cenedl' mor agos i 'genhedlaeth'. Pobl sy'n cyfranogi yr un sefyllfa yw cenedl, pobl sy'n sefyll heddiw ynghyd gerbron Duw a'i alwad - cenhedlaeth, cymuned o'r un gyfnod, hyd yn oed os mae 'nhw'n byw yng nghanrifoedd gwahanol. Bod yn genedl yw cael rhyw fath o syniad o'r alwad hon, galwad i wynebu ynghyd problemau a heriau bywyd a marwolaeth, her o fod yn wir ddynol. Byw fel cenedl yw bod yn rhydd i glywed a darllen ein hanes, ein etifeddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol, fel rhywbeth gyfoesol. Pan drown at yr etifeddiaeth hon a chlywed i'n hanes, mae fel cymeryd rhan mewn ymddiddan parhaol dros yr oesoedd. Dywedodd Martin Luther ynglyn a'r Ysgruthurau, De te loquitur - 'Llefarwyd amdanat'. Pan ydyw bywyd cenedl yn ddilys ac yn iach, mae'r gerirau hyn yn wir gymwys inni, mewn rhai ystyr gyfatebol. Nid yw geiriau beirdd a phregethwyr a phroffwydi ac arweinyddion y gorffenol yn fater o ddiddordeb academaidd; mae nhw'n llefaru amdanom. Mae nhw'n rhoi ateb i'r cwestiynnau sy'n ein poeni ni heddiw - nid ateb terfynol, ond ateb difrifol, ateb sy'n ein herio ni bob un. 'Nid a'n hynafiaid y wnaeth yr Arglwydd cyfamod...'
Mae pwysigrwydd ein hiaith, pwysigrwydd ein cerddoriaeth a hanes ein traddodiadau gwleidyddol, traddodiadau gydweithredol ac annibynnol, yn darganfod ei wreiddiau a'i ystyr ym mywyd cenedl o'f fath hon: byw yng nghyd-destun ymddiddan parhaol, dyma hanfod bywyd a hunaniaeth cenedl. Ac yn yr ystyr hon, mae'r Eglwys ei hun yn enghraifft gwych o fywyd cenedl - cenedl sanctaidd, fel y 'sgrifennodd Sant Pedr yn ei llythr cyntaf, cymuned sy'n byw ynghyd, dros y canrifoedd, gerbron Duw, yn clywed ar ei alwad, yn gwrando ar ei gilydd, yn gwrando at amrywiaeth rhyfeddol o atebion i'r un her, yr un cwestiwn, sy'n dod oddiwrth Duw - 'Sut y byddwch chi'n mynd i fyw yn gyfan gwbwl ac yn wir ddynol?' Os anghofiwn iaith a diwylliant a thraddodiadau gwleidyddol, fe gollwn gyfoeth o'r atebion hyn. Byddo hi'n fel ceisio ail-lunio, ail-adeiladu, rhywbeth anferth a chymhleth a hardd gyda dim ond ychydig o atgofion personol - ailgyfansoddi'r 'B-Minor Mass', neu Symffoni Bugeiliol Beethoven ar sylfaen ychydig o donau hanner-cofiwyd yn ein pennau.
Ac mewn proses fel hyn, proses o wrando ar ein gilydd, yna y mae cenedl yn mynd yn gymuned, mewn ystyr gyflawn. Galwodd Duw y bobl, a rhyddhaodd Israel o'r Aifft - ac wedyn rhoddodd iddynt gyfraith. Yn y Gyfraith, fe alwodd Duw ni nid yn unig i fod yn genedl sy'n sefyll ynghyd ger ei fron ef, ond i fod yn gymuned o bobl sy'n troi at ei gilydd i wneud ein brodyr a chwiorydd yn fwyaf dynol, trwy berthynas a'n gilydd, perthynas o ffyddlondeb a chyfiwander. Mae rhaid i bobl Dduw fod yn gymuned lle mae hi'n bosib bob amser ymddiried yn ein gilydd - ymddiried bod y cymydog yn barod i weithredu er lles i mi, er mwyn gwella fy mywyd; ac hefyd fy mod i fy hun yn rhoi rheswm i'r cymydog ymddiried ynof i. Mewn cymuned fel hyn, mae'r cymydog yn mynd yn frawd neu chwaer ac mae'r cymuned yn mynd yn deulu. Os ydym yn sefyll ynghyd gerbron Duw, yr ydym yn sefyll hefyd gerbron y cymydog - fel y dywedodd Iesu gan orchymyn, 'Car yr Arglwydd dy Dduw a char dy gymydog fel ti dy hun'. Pan welwn angen corff neu enaid ein cymydog, yr ydym yn gwrando galwad Duw. Ac y mae'r Gyfraith yn arwydd o hyn oll: arwydd o genedl ag ymddiried yn nodwedd iddi. Heb ymddiried, 'does dim posibilirwydd o barhad mewn cymdeithas, dim cyd-destun y mae'n bosibl i rywun dyfu lan ynddo, tyfu i wir ddyndod aeddfed: 'y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist', fel 'sgrifennodd yr apostol at yr Effesiaid. Heb ymddiried, yr ydym yn garcharorion drwgdybiaeth a phryder.
Hanes taith yw hanes y Beibl, taith sy'n arwain o 'genedl' yn yr ystyr gyfyng i 'gymuned', lle mae pobl yn gallu ymddiriedu a thyfu lan. Yr ydym yn caru a gwerthfawrogi etifeddiaeth ein cenedl nid fel rhywbeth amhersonol neu dim ond naturiol, rhywbeth sy wedi'i 'rhoi' i ni yn gyffelyb ag agweddau eraill y byd; mae bywyd y cenedl yn wir fywyd, personol a dwyochrog, sy'n symud yn fwyfwy tuag at gymuned, trwy wrando a chydweithredu, trwy drysorau iaith a dychymyg a myfyrdod, trwy ymarfer ymddiried a'r ymddiried hwnnw yn cael ei ddatgan mewn cyfraith a chyfiawnder. Yr ydym yn cyfranogi'r un 'agenda' fel cenedl trwy wynebu'r un cwestiynnau a'r un her ; ac fel cymuned, yr ydym yn ceisio gwneud yr agenda hon yn realiti - yn gyflawni'r alwad I wneud ein gilydd yn wir ddynol gerbron Duw, yn ffurfio (tryw'r Ysbryd Duw) yn ein hunain ac yn ein gilydd lun a delw Duw.
Dyma'r gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb 'llwythol' ('tribal') sy wedi creu tensiynau ofnadwy yn y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf - Bosnia, Rwanda ac yn y blaen - a chenedlaetholdeb sy wedi dysgu ffyddlondeb i ddynolryw trwy fod yn ffyddlon i gymydog (cymdogion a fu, yn y gorffennol sy'n llefaru trwy draddodiad, cymdogion heddiw sy'n llefaru gyda ni yn ei angen ac yn ei urddas ddynol). Os gallwn dysgu medr gwrando at ein etifeddiaeth gyda gobaith a chydymdeimlad, gan adnabod y cwestiynnau a'r her sy'n dod o oesoedd eraill fel cwestiynnau dynol sy'n berthnasol i ni heddiw, felly byddwn yn barod i wrando yn awr at yr Arall, yn cymeryd yn ddifrifol ei broblemau a'r her sy'n ei wynebu yntau. Ac o ddealltwriaeth fel hyn y mae cymuned fyd-eang yn datblygu - cymuned cyfiawnder, achos mewn cymuned fyd-eang o'r fath mae pawb yn gallu adnabod yr Arall fel cyfrannwr yn yr un ymddiddan dynol, yr un prosiect dynol. Ni fydd un person neu gymdeithas heb lais; a dyma, siwr o fod, gyfiawnder yn ystyr mwyaf cyflawn, delw bell ond diffuant o gyfiawnder Duw.
Fel y dywedais funud yn ol, mae rhai fathau o genedlaetholdeb a theyrngarwch i genedl yn ddistrywiol ac ofnadwy. Os bydd ffyddlondeb i'n gilydd yn ddim ond enw arall am ddrwgdybiaeth a chasineb tuag at yr estron, mae rhywbeth pwysig wedi'i golli, gyda canlyniadau difrifol iawn. Eleni yr ydym yn dathlu canmlwyddiant genedigaeth Dietrich Bonhoeffer, un o'r cymeriadau mwyaf pwysig yn hanes Eglwys yr ugeinfed ganrif - ac mewn hanes Ewrop hefyd, i ddweud y gwir. Roedd e'n ddiwinydd disglair iawn, sy wedi rhoi ei fywyd yn yr ymdrech erbyn Hitler ac yn erbyn athroniaeth ynfyd hiliol y Drydydd Reich. Athroniaeth y Drydydd Reich yw'r enghraifft mwyaf clir o lygru teyrngarwch i'r genedl neu bobl, teyrngarwch heb hanes , heb ystyriaeth, heb gydymdeimlad. Ac yn erbyn yr athroniaeth hon, datblygodd Bonhoeffer syniad o ffyddlondeb dynol a byd-eang sy'n canolbwyntio ar air llawn o atsainiau diwinyddol a beiblaidd - gair pedwerydd sy'n dechrau ag 'c', ar ein cyfer heddiw, fel 'cenedl' a 'chymuned' a 'chyfiwander': mae Bonhoeffer yn ychwanegu cyfrifoldeb. Dirgelwch ein bywyd Cristionogol yw ein bod ni wedi derbyn galwad i fod yn gyfrifol dros ein gilydd; ac yng nghyd-destun diwinyddiaeth Bonhoeffer mae hyn yn golygu bod yn barod i gynrychioli ein gilydd a chodi croes peryglon a phoenau yr Arall - yn Almaen y tridegau, codi croes peryglon a phoenau yr Iddewon yn fwyaf arbennig.
Mae'r gair yma - cyfrifoldeb - yn bwrw golau ar ein tri gair ni heddiw. Bywyd cenedl yw bywyd yr ydym yn cymeryd cyfrifoldeb ynddi - cyfrifoldeb ein ddoe, cyfrifoldeb dros wrando ar y lleisiau sy'n dod oddiwrth ein etifeddiaeth, fel y gallwn wynebu galwad Duw yn y bresennol. Bywyd cymuned yw bywyd yr ydym yn cymeryd cyfrifoldeb dros iechyd a llewyrch ein cymydog ynddo. Mae na gyfiawnder - pan ydym yn ymddiried mai ffyddlondeb sy'n cynnal y gymuned, lle'r mae Gyfraith gyffredin wedi ei sylfaenu ar gyfrifoldeb y nail gymydog at y llall.
Felly, dyna rywbeth i ni feddwl amdano wrth ddathlu, yr wythnos hon, ein hetifeddiaeth ein hiaith a'n diwylliant. Sut y byddwn diogelu'r posibilirwydd o dyfu, hynny yw datblgu o fod yn genedl i fod yn gymuned ac wedyn bod yn gymuned gyfiawn, lle mae pawb yn adnabod ei gyfrifoldeb tuag at bawb arall a thros bawn arall? Sut y byddwn yn adeiladu hyder yn ein cenedl - yng Nghymru, gyda'i broblemau gwledig mor anodd a chyfnewidiol, ei broblemau ynglyn ag ailddatblygiad yn y cymoedd, a phrisiau tai i bobl ifanc, y her newydd mewn dinasoedd llwyddiannus, problemau a chamddefnydd cyffuriau, digalondid, unigrwydd a hunanladdiad? ac wedyn ym Mhrydain gyfan, sy'n rhannu'r un problemau a Chymru - ond hefyd yn wynebu'r sialens pan mae pobl yn colli hyder yn ein bywyd cyffredin a gwleidyddol? A beth am y sialens heddiw yn y Dwyrain Anol? Sut y byddwn yn adeiladu ymddiried rhwng Israel cyfoesol a'i gymdogion? Ble mae'r ffordd allan o'r anialwch hwn? Does dim ffordd heb ymddiried - a felly, heb fentr a pherygl.
Mae hi'n amser i ni gyd adnewyddu ein hyder yn Duw a'i alwad. Diolch iddo, mae e wedi rhoi i ni brofiad o fywyd cenedlaethol sy'n tystiolaethu i bosibilrwydd bywyd cyfiawn a chytbwys, bywyd cyfrifol, agored i angen a galwad y byd, nid ein cymdogion o Gymru yn unig. Fel mae llawer wedi dweud, mae gwladgarwch Gymreig yn wastad yn cynnwys elfen ryngwladol. 'Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn'; os byddwn ni'n ddifrifol ynglyn a'n gorffennol, mae rhaid i ni fod yr un mor ddifrifol ynglyn a'n dyfodol. Nid yw galwad Duw wedi newid; yr ydym yn sefyll gerbron yr un her, a cherbron yr un addewid. Boed i ni ateb ag un llais a chyda'r un brwdfrydedd, a boed i ni dyfu lan fel y byddwn mynd yn gyfrifol dros ein gilydd, trwy nerth yr Un sy wedi cymeryd cyfrifoldeb a mynd yn gynrychiolydd dros yr holl fyd, Iesu Grist ein Hiachawdwr.
© Rowan Williams 2006